Berwyn & District

Croeso

Mudiad hunan-gymorth rhyngwladol yw Prifysgol y Drydedd Oes (P3O) i bobl sydd wedi ymddeol neu hanner-ymddeol. Mae’n darparu cyfleoedd addysgol, creadigol a hamdden mewn dysgu gydol oes. Mae llwyddiant pob P3O yn ddibynnol ar y modd y mae gallu , gwybodaeth a phrofiad yr aelodau yn cael ei rannu er budd eu cyd -aelodau. Nid oes angen cymwysterau ffurfiol ac nid oes rhai yn cael eu cynnig, felly 'does dim pwysau ar unrhyw aelod.

Mae P3O yn fudiad newydd o grwpiau yn ardal Edeirnion a De Sir Ddinbych. Rydym yn cynnig nifer eang o weithgareddau ac o ddiddordebau. Gall y cyfarfodydd hyn fod yn gyfle i wneud cyfeillion newydd, rhannu diddordebau a datblygu sgiliau mewn awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar.

Y tâl aelodaeth blynyddol yw £15. Mae hyn yn cynnwys y costau tadogaeth i’r Brif Swyddfa P3O ar gyfer yswiriant, gweinyddu ac yn y blaen. Mae’r gweddill yn dâl am logi’r neuadd, costau rhedeg etc. i’n grŵp. Os byddwch yn cynnig am aelodaeth ar ôl 30ain o Fedi y ffi yw £9.50 am weddill y tymor aelodaeth.
Mae rhai o’n grwpiau diddordeb hefyd yn tanysgrifio i gostau lleoliad , ond mae’r mwyafrif yn cyfarfod yn nhai ei gilydd.

Gallwch lawrlwytho’r Ffurflen Gais am Aelodaeth oddi yma.

Os hoffech ymuno ag unrhyw rai o’n grwpiau neu gychwyn grŵp newydd, gofynnir ichi gysylltu â ni gan ddefnyddio’r manylion sydd ar y tab CONTACTS